Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad drafft
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).
Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”). Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) i roi hysbysiad cydymffurfio, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau, i’r cyrff hyn.
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.
1. Y Rheoliadau hyn yw'r rhai cyntaf i bennu safonau o dan Fesur 2011.
2. Roedd cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn 2011 yn ymwneud â'r Gymraeg. Mae hynny'n parhau'n wir hyd heddiw. Felly, ni all y Cynulliad ddeddfu mewn perthynas â'r Saesneg oni bai ei fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad mewn ffordd arall, fel yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae hyn wedi golygu nad yw'r safonau'n cynnwys pethau y gellir ystyried eu bod yn amlwg am nad ydynt yn ymwneud â gwasanaethau yn Gymraeg.
3. Un enghraifft yw'r gofyniad yn safonau 49, 50A, 55 a 124 bod yn rhaid i ddogfen Saesneg ddatgan ei bod ar gael yn Gymraeg. Nid oes gofyniad cyfatebol bod yn rhaid i ddogfen Gymraeg ddatgan ei bod ar gael yn Saesneg.
4. Ceir enghraifft arall yn Safon 79 –
“Os byddwch yn cael tendr yn Gymraeg, a bod angen cyf-weld â thendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr rhaid ichi—
(a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fel bod modd i’r tendrwr ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a...”
Caiff ei fynegi fel hyn gan ei fod yn dod o Fesur y Gymraeg. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, byddai'r tendrwr, yn yr amgylchiadau hynny, yn gallu defnyddio'r Gymraeg heb gyfieithydd. Efallai y bydd angen cyfieithiad er mwyn i'r rhai sy'n gwrando ddeall beth sy'n cael ei ddweud h.y. er budd y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg.
5. O dan fodel datganoli sy'n ymwneud â chadw pwerau, mae'n anhygoel meddwl y byddai'r pŵer i ddeddfu mewn perthynas â'r Saesneg wedi'i gadw'n. Yna, gellid mynegi deddfwriaeth a ystyrir gan y Cynulliad mewn ffordd sy'n fwy rhesymegol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2015